Prif swyddogaeth y Cyfarwyddwr yw rheolaeth gyffredinol y Ganolfan gan gynnwys arweiniad strategol, rheolaeth gyllidol, cyfrifoldeb am gytundebau rhanbarthol, rheoli data a sicrhau ansawdd.
Mae Ifor wedi ei leoli yn y swyddfa ym Mangor.
Prif swyddogaeth y Dirprwy Gyfarwyddwr yw gweithredu fel dirprwy ir' yfarwyddwr ac arwain ar faterion hyfforddiant ac ansawdd.
Mae Haydn wedi ei leoli ym Mangor.
Prif swyddogaeth y Rheolwr Data fydd sefydlu a chynnal systemau casglu a gwirio data'r Ganolfan, cydweithio'n agos gyda holl ddarparwyr y rhanbarth a rheoli defnydd cyffredinol y Ganolfan o dechnoleg gwybodaeth.
Mae Gary wedi ei leoli ym Mangor
Prif swyddogaeth y Swyddog Cyfathrebu yw arwain ar faterion marchnata'r Ganolfan a hyrwyddo rhaglen o weithgareddau dysgu anffurfiol gan ddarparwyr Cymraeg i Oedolion y gogledd, a chydlynu darpariaeth anffurfiol ychwanegol gan amrywiol bartneriaid y Ganolfan.
Mae Siwan wedi ei lleoli ym Mangor.
Mae'r Ymchwilydd yn gyfrifol am weithrediad dydd i ddydd prosiect ymchwil y Ganolfan sy'n edrych ar ac yn monitro cynnydd, profiadau ac agweddau amrywiol 1000 o ddysgwyr ledled rhanbarth gogledd Cymru.
Pris swyddogaeth y Swyddog Hyfforddiant ac Ansawdd ydy cynorthwyo'r Dirprwy Gyfarwyddwr i drefnu a darparu cynllun hyfforddi'r Ganolfan ar gyfer tiwtoriaid ac i ddatblygu gweithdrefnau i sicrhau ansawdd ar draws y rhanbarth.
Mae Sian wedi ei lleoli ym Mangor.
Prif swyddogaeth y Rheolwr Swyddfa yw rheoli cyllid y Ganolfan a delio gyda materion staffio mewn cydweithrediad a Chyfarwyddwr y Ganolfan ynghyd a rheoli a chydlynu swyddogaethau gweinyddol a sicrhau gweithrediad effeithiol prosiectau arbennig megis trefnu arsylwadau, arholiadau a'r bwrsari mewn cydweithrediad a rheolwr y prosiect.
Mae Ellen wedi ei leoli ym Mangor.
Prif swyddogaeth yr Ysgrifenyddes yw bod yn bwynt cyswllt cyntaf i'r cyhoedd, a'u cynghori a'u cynorthwyo, ynghyd â chynnig cefnogaeth fewnol i staff y Ganolfan gyda gwaith gweinyddol dyddiol.
Mae Ceri wedi ei lleoli ym Mangor.
Prif swyddogaeth y cynorthwy-ydd prosiect yw cynnig cymorth gyda threfniadau digwyddiadau pwysig yng nghalendr y Ganolfan
Mae Elen wedi ei leoli ym Mangor.