Yn syml, rydym yn cydlynu'r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ar draws Gogledd Cymru, gan weithio gydag 8 o ddarparwyr annibynnol i sicrhau'r safonau uchaf o ran ansawdd dysgu. Rydym hefyd yn gweithredu fel siop-un-stop ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn y rhanbarth ac yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac adnoddau i'w rhoi ar y trywydd cywir ac i gael y profiad dysgu gorau bosibl.
Sefydlwyd y Ganolfan yn 2006 ar ôl i Lywodraeth Cynulliad Cymru ad-drefnu'r maes Cymraeg i Oedolion. Sefydlwyd 6 Chanolfan rhanbarthol ledled Cymru, yn cynnwys Canolfan y Gogeldd, er mwyn dod â'r ddarpariaeth ynghyd i sicrhau cysondeb ac ansawdd yn genedlaethol, ond gyda ffocws ar weithgarwch rhanbarthol a lleol.
Mae Canolfan Gogledd Cymru yn gwmpasu'r ardaloedd canlynol: Ynys Môn, Gwynedd (ag eithrio Meirionnydd), a Chonwy yn y gorllewin, a Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn y dwyrain. Mae gan y rhanbarth boblogaeth o 631,283; ac mae oddeutu 30% yn gallu naill ai siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg. Mae tua 7,000 o bobl yng Ngogledd Cymru yn ymrestru ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion bob blwyddyn.