learncymraeg.org

Digwyddiadau

Hafan

Eisteddfod y Dysgwyr- yr orau eto!



< >

Yr oedd Clwb y Gweithwyr yng Ngwersyllt ger Wrecsam dan ei sang ar nos Wener, Ebrill 23ain gyda degau o ddysgwyr a thiwtoriaid brwd wedi dod i gefnogi ei gilydd ar gyfer Eisteddfod Dysgwyr y Gogledd Ddwyrain 2010.

Hyd yn oed cyn y noson fawr ‘roedd cyfanswm o 93 o ddysgwyr wedi cystadlu yn y gwaith cartref a 7 o’r rheiny wedi ysgrifennu cerdd dan y thema ‘Adfywiad’ ar gyfer gwobr y Gadair.

Trefnwyd yr Eisteddfod eleni gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, ‘roedd hyn yn hwyluso’r gwaith o gydlynu rhwng pob ddarparwr ac hefyd yn rhoi mwy o amser i diwtoriaid ganolbwyntio ar baratoi y dysgwyr at y noson fawr.

Cafwyd nifer fawr yn ymgeisio ymhob cystadleuaeth o dan arweiniad hwyliog Siôn Aled a chafwyd beirniadaethau teg gan Aled Lewis Evans (beirniad llenyddiaeth a llefaru); Craig Owen Jones (beirniad cerdd a thlws Dafydd ap Llywelyn) a Helen Pritchard Jones (beirniad Celf a Chrefft a gwaith llaw).

Enillydd y gadair eleni oedd Chris Ryder o Abergele, llongyfarchiadau mawr iddi hi, a phob hwyl gyda’r gerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent 2010.

Hoffem ddiolch o galon i bawb a fu’n rhan o’r Eisteddfod- o’r cystadlu i’r trefnu ac i’r help llaw ar y noson. Edrychwn ymlaen rŵan at Eisteddfod y Dysgwyr 2011, fydd yn dod i leoliad yn Sir y Fflint.

Canlyniadau:
PARTI ADRODD
1. Parti Canol Wlpan Tŷ Pendre (Prifysgol Bangor)
2. Parti Capel Bethel yr Wyddgrug (Popeth Cymraeg)
3. (cydradd) Parti Wlpan Tŷ Pendref- nos (Prifysgol Bangor)
(cydradd) Parti Cilgwri
4. Parti Wlpan Tŷ Pendref- dydd (Prifysgol Bangor)

CANU UNIGOL
1. (Cydradd) Ruth Evans
(Cydradd) Billie Owens
2. Gill Jones (Cilgwri)
3. Jane Kay
4. Sheila Williams

LLEFARU UNIGOL
1. Jean Bragg
2. Gwyneth
3. Dora Jones

DARN OFFERYNOL
1. Jessica Evans
2. Vicky Thomas

PARTI CANU
1. Parti Tŷ Pendref (Prifysgol Bangor)
2. Parti Popeth Cymraeg

SGETSH
1. Parti Tŷ Pendref

GWAITH CARTREF
Cystadleuaeth Y Gadair. Cerdd ar y thema ADFYWIAD
1. Christine Ryder, Abergele
2. Richard Norton, Coleg Iâl
3. Peter Jones, Rossett

Rhyddiaith (500 gair) ar y thema JOIO
1. Anne Cooke, Llangollen
2. Christine Ryder, Abergele
3. Les Barker

Rhyddiaith (100 gair) ar y thema FY ARDAL I
1. Alan Morris, Coleg Iâl
2. Gwynne o Gilgwri
3. Robbie Bunton, Yr Hôb

Rhyddiaith (500 Gair) ar y thema ‘Diwrnod Perffaith’
1. Joe Kay, Yr Wyddgrug
2. John Connah, Popeth Cymraeg
3. Susan Jackson, Popeth Cymraeg

Gwaith Grwp – Pwt i’r papur Bro
1. John, Gill, Julie, Dalma, Ffrida, Muriel- Dosbarth Tegla, Tŷ Pendref
2. Dosbarth Nesta Ellis (Tŷ Pendref)
3. Dosbarth Mair Spencer, Popeth Cymraeg

Blog
1. Les Barker
2. Helen Cunnie, Betws Gwerfil Goch

Ysgrifennu Cerdyn Post. 36 yn cystadlu.
1. Sue Johnson, Dosbarth Adrienne Allen, Coleg Glannau Dyfrdwy
2. Gwynne, Cilgwri
3. Bronwen Woodcock, Popeth Cymraeg.

LLONGYFARCHIADAU MAWR I BAWB!


Eich siop-un-stop ar gyfer dysgu Cymraeg yng Ngogledd Cymru
Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol...
01248 383928 neu learncymraeg@bangor.ac.uk
Llywodraeth Cynulliad CymruPrifysgol Cymru BangorCymraeg i Oedolion