|
Mae Eisteddfod y Dysgwyr wedi bod yn cael ei chynnal yn y Gogledd Ddwyrain, a'r Gogledd Orllewin ar wahan ers rhai blynyddoedd bellach. Ond eleni am tro cyntaf erioed, bydd yr Eisteddfod yn cynnwys y ddwy ranbarth, ac yn cynnal Eisteddfod Dysgwyr Gogledd Cymru. Mae'n ddigwyddiad anffurfiol iawn gyda phawb yn eistedd rownd y bwrddau a bydd y bar yn agored ar gyfer diod alcoholic neu di-alcohol.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yng Ngwesty Ty Oriel, Llanelwy ar nos Wener, Mawrth 23ain am 7 o'r gloch. Gallwch lawrwytho copi o'r rhestr testunau isod, a cofiwch bod rhaid i chi gyflwyno'r cystadlaethau gwaith cartref i'ch Tiwtor erbyn 1/3/2012. Rhestr Testunau Eisteddfod y Dysgwyr 23/3/2012 |
Isio Ymarfer eich Cymraeg?
Digwyddiadau i Ddysgwyr-Newyddlen Rhifyn 6 i weld yma
Dach chi'n ddysgwr? Dyma ein newyddlen diweddar i chi. Mae'n cynnwys holl wybodaeth am weithgareddau i ddysgwyr yn eich ardal chi.
Ymarfer eich Cymraeg!

Cynhaliwyd ein cynhadledd dros benwythnos Hydref 22-23. Cafwyd sesiynau difyr gan Nia Parry, Siân Esmor, Swyn Spencer, Ioan Talfryn, Elwyn Hughes, Ifor ap Glyn, Cyril Jones a staff y Ganolfan. Daeth dros 90 o diwtoriaid draw i'r Ramada yn Wrecsam i ddysgu, i gysmygu ac i fwynhau. I lawrlwytho cyflwyniadau'r gynhadledd, cliciwch yma. |
Dach chi'n ddysgwr? Dyma ein newyddlen diweddar i chi. Mae'n cynnwys holl wybodaeth am weithgareddau i ddysgwyr yn eich ardal chi.
Ymarfer eich Cymraeg!

Cyhoeddwyd mai Kay Holder yw enillydd Dysgwr y Flwyddyn eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro. Cyhoeddwyd hyn mewn seremoni arbennig yn Neuadd Goffa Wrecsam.
I ddarllen mwy ar y stori yma, cliciwch yma
Bathodyn newydd i ddysgwyr Cymraeg
Mae Canolfan Cymraeg i oedolion y Gogledd, mewn parteriaeth efo Heddlu Gogledd cymru wedi cyhoeddi bathodyn newydd i ddysgwyr Cymraeg.
I weld yr erthygl yn y Daily Post, cliciwch yma
Mae Popeth Cymraeg yn awyddus i benodi Swyddog Ansawdd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Dwy Eisteddfod llwyddiannus yn y Gogledd
Penwythnos yn Glan Llyn i ddysgwyr Cymraeg
Cyfle i Diwtoriaid y gogledd rwydweithio
Meggan Lloyd Prys yn Ennill Dysgwyr y Flwyddyn