learncymraeg.org

Cyfarwyddiadau Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol

Cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio'r Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol (Smart Board)fel adnodd addysgol.

Cardiau Fflach 1 a 2 CBAC

Pecyn o 100 o gardiau fflach i’w defnyddio mewn dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion. Cynhyrchir y pecyn mewn dau faint; A4 ar gyfer cyflwyniadau dosbarth cyfan ac A6 ar gyfer ymarferion pâr/grŵp. Mae CD-ROM o’r lluniau a llyfryn awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau hefyd ar gael.

Adnoddau Ar-lein

Y Tiwtor
Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion sy’n cynnwys banc o ddeunyddiau dysgu, newyddion o’r maes a gwybodaeth am arholiadau.

Onestopenglish
Gwefan yn cynnwys dros 7,000 o ddeunyddiau dysgu, yn cynnwys cynlluniau gwersi, gweithlenni a chardiau fflach ar gyfer tiwtoriaid Saesneg fel ail iaith. Hefyd yn cynnwys gemau i ddysgwyr, newyddion o’r maes a fforwm drafod i diwtoriaid.

Free Flash Cards
Cardiau fflach ar destunau amrywiol i’w llawr lwytho a’u defnyddio i atgyfnerthu’r addysgu a’r dysgu yn y dosbarth.

Multilingual Matters
Gwasg sy’n arbenigo mewn cyhoeddi gwaith yn trafod dwyieithrwydd, addysgu a dysgu ail iaith, ieithyddiaeth gymdeithasol a chyfieithu.

Acen
Pob math o adnoddau’n hyrwyddo’r Gymraeg ar gyfer tiwtoriaid a dysgwyr.

Banc Acen
Adnoddau ategol i diwtoriaid, yn cynnwys 30 o unedau addysgu ar bob lefel.

S4C
Gemau rhyngweithiol a thasgau i’w llawr lwytho, yn seiliedig ar raglenni teledu S4C.

  • Camau Cymraeg
    Deunyddiau i baratoi dysgwyr ar gyfer ymweliad i Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.

    .

    Agored Cymru
    Deunyddiau asesu i’w defnyddio gyda dysgwyr lefel Mynediad hyd at Uwch.

    BBC

    Welsh At Home: Adnodd wedi ei anelu at rieni sydd â phlant yn mynychu ysgolion Cymraeg. Addas ar gyfer dysgwyr ar lefelau Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.

    Mae gan Colin & Cumberland amrywiaeth o gemau ac argraffiadau poced sy’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr ar lefel Mynediad.

    Learn Welsh: Adnoddau rhyngweithiol i ddysgwyr ar lefelau Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.

    Mae’r Ieithgi yn cynnig gemau a phosau rhyngweithiol ar gyfer dysgwyr ar lefel Uwch a Hyfedredd.

  • Eich siop-un-stop ar gyfer dysgu Cymraeg yng Ngogledd Cymru
    Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol...
    01248 383928 neu learncymraeg@bangor.ac.uk
    Llywodraeth Cynulliad CymruPrifysgol Cymru BangorCymraeg i Oedolion